South Wales Training and Education programme

Location: Cardiff

Name: Khadra Hersi

Job Title: Founder

South Wales Training and Education programme Datganiad o Fwriad

Mae South Wales Training and Education programme yn croesawu ehangder ac amrywiaeth traddodiad, cred a diwylliant y gymuned. Ei nod yw cynnal a hybu cymuned lle caiff pawb ei drin yn deg ac yn gydradd beth bynnag eu hil. Mae South Wales Training and Education programme yn cadarnhau ei ymrwymiad i bolisi o gyfleoedd cyfartal mewn cyflogaeth a darpariaeth gwasanaeth. Caiff unigolion eu dewis a’u trin ar sail eu rhinweddau a’u galluoedd a byddant yn cael cyfleoedd teg a chyfartal o fewn South Wales Training and Education programme. Yn yr un modd, rydym yn cadarnhau ein hymrwymiad i drin ein holl staff, cleientiaid, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth yn unol â’r polisi hwn. Mae South Wales Training and Education programme yn ymrwymo i gadw at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a darparu gwasanaethau teg a chydradd i bobl o bob hil ac o gefndiroedd y nodweddion gwarchodedig eraill. Nod y polisi yw sicrhau na chaiff unrhyw ymgeisydd am swydd neu ddefnyddiwr/ymwelydd/westai ei drin yn llai ffafriol ar unrhyw sail nad yw’n berthnasol i arfer da mewn cyflogaeth. Rydym wedi ymrwymo i raglen waith i roi’r polisi hwn ar waith yn llawn.


Datganiad Polisi South Wales Training and Education programme

Mae South Wales Training and Education programme yn ymrwymo i hybu agwedd goddef dim hiliaeth ym mhob rhan o South Wales Training and Education programme, a golyga hyn:

  • Fe wnawn sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol a chydradd i bawb.
  • Ni wnawn oddef rhagfarn hiliol, gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, camdriniaeth na thrais yn erbyn unrhyw unigolyn.
  • Fe wnawn sefyll mewn undod, dod ynghyd, a dweud ‘na’ i hiliaeth ar ei holl ffurfiau.
  • Fe wnawn hyrwyddo cysylltiadau hiliol da rhwng pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn South Wales Training and Education programme.
  • Fe wnawn hyrwyddo cyfleoedd teg a chydradd i bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol gael dyrchafiad.
  • Fe wnawn ddileu gwahaniaethu hiliol anghyfreithiol, aflonyddu, erledigaeth a chamdriniaeth.

Cyfrifoldeb South Wales Training and Education programme

Mae gan bawb ar bob lefel rhyw fath o gyfrifoldeb. Mae cysylltiadau ac arfer da, a gwireddu cymuned gynhwysol yn dibynnu ar i holl aelodau South Wales Training and Education programme drin eu cyd-aelodau/defnyddwyr/ymwelwyr gyda pharch ac urddas. Felly, disgwylir i bawb:

  1. Cydweithio â mesurau i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon.
  2. Trin holl aelodau staff mewn modd teg a heb wahaniaethu, gan barchu gwahaniaethau.
  3. Peidio gwahaniaethu pan fo gan rai aelodau bŵer dros eraill.
  4. Peidio ysgogi neu geisio annog eraill i ymddwyn mewn ffyrdd sy’n gwahaniaethu.
  5. Peidio erlid neu geisio erlid unrhyw un sydd wedi gwneud cwynion am wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, neu gamdriniaeth neu sydd wedi darparu gwybodaeth am wahaniaethu.
  6. Dileu aflonyddu, camdriniaeth neu godi ofn ar eraill ar sail hil neu ethnigrwydd, er enghraifft mewn ymgais i’w cymell i beidio â gwneud cais am swyddi gwag neu gyfleoedd gwirfoddoli yn South Wales Training and Education programme.
  7. Rhoi gwybod i berson priodol os bydd gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth ar unrhyw ffurf yn digwydd.
  8. Cymryd camau priodol pan fo rhywun yn eu hysbysu bod gweithred neu weithredoedd o wahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth wedi digwydd.

Monitro

Polisi South Wales Training and Education programme yw monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws bob agwedd o’i weithgaredd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Derbyn a recriwtio staff, gwirfoddolwyr, aelodau, defnyddwyr ac ymwelwyr.
  • Y nifer o gwynion, achwyniadau a chamau disgyblu a’u natur.
  • Cyfraddau ymddiswyddo a thynnu’n ôl ymysg staff, cleientiaid, cwsmeriaid a/neu ddefnyddwyr gwasanaeth.

Bydd monitro fel hyn yn dangos a yw grwpiau penodol yn profi anfantais ac a ydynt yn cael eu trin yn deg ac yn gydradd mewn perthynas â naill ai eu cyflogaeth neu’r defnydd a wnânt o South Wales Training and Education programme.

Pan fo arferion annheg yn cael eu darganfod drwy’r broses fonitro, bydd y camau gweithredu angenrheidiol yn cael eu cymryd i ddatrys yr anfantais.

Menu