KellyKare
Location: Aberystwyth
Name: Philip Kelly
Job Title: Consultant
KellyKare Datganiad o Fwriad
Mae KellyKare yn croesawu ehangder ac amrywiaeth traddodiad, cred a diwylliant y gymuned. Ei nod yw cynnal a hybu cymuned lle caiff pawb ei drin yn deg ac yn gydradd beth bynnag eu hil. Mae KellyKare yn cadarnhau ei ymrwymiad i bolisi o gyfleoedd cyfartal mewn cyflogaeth a darpariaeth gwasanaeth. Caiff unigolion eu dewis a’u trin ar sail eu rhinweddau a’u galluoedd a byddant yn cael cyfleoedd teg a chyfartal o fewn KellyKare. Yn yr un modd, rydym yn cadarnhau ein hymrwymiad i drin ein holl staff, cleientiaid, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth yn unol â’r polisi hwn. Mae KellyKare yn ymrwymo i gadw at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a darparu gwasanaethau teg a chydradd i bobl o bob hil ac o gefndiroedd y nodweddion gwarchodedig eraill. Nod y polisi yw sicrhau na chaiff unrhyw ymgeisydd am swydd neu ddefnyddiwr/ymwelydd/westai ei drin yn llai ffafriol ar unrhyw sail nad yw’n berthnasol i arfer da mewn cyflogaeth. Rydym wedi ymrwymo i raglen waith i roi’r polisi hwn ar waith yn llawn.
Datganiad Polisi KellyKare
Mae KellyKare yn ymrwymo i hybu agwedd goddef dim hiliaeth ym mhob rhan o KellyKare, a golyga hyn:
- Fe wnawn sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol a chydradd i bawb.
- Ni wnawn oddef rhagfarn hiliol, gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, camdriniaeth na thrais yn erbyn unrhyw unigolyn.
- Fe wnawn sefyll mewn undod, dod ynghyd, a dweud ‘na’ i hiliaeth ar ei holl ffurfiau.
- Fe wnawn hyrwyddo cysylltiadau hiliol da rhwng pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn KellyKare.
- Fe wnawn hyrwyddo cyfleoedd teg a chydradd i bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol gael dyrchafiad.
- Fe wnawn ddileu gwahaniaethu hiliol anghyfreithiol, aflonyddu, erledigaeth a chamdriniaeth.
Cyfrifoldeb KellyKare
Mae gan bawb ar bob lefel rhyw fath o gyfrifoldeb. Mae cysylltiadau ac arfer da, a gwireddu cymuned gynhwysol yn dibynnu ar i holl aelodau KellyKare drin eu cyd-aelodau/defnyddwyr/ymwelwyr gyda pharch ac urddas. Felly, disgwylir i bawb:
- Cydweithio â mesurau i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon.
- Trin holl aelodau staff mewn modd teg a heb wahaniaethu, gan barchu gwahaniaethau.
- Peidio gwahaniaethu pan fo gan rai aelodau bŵer dros eraill.
- Peidio ysgogi neu geisio annog eraill i ymddwyn mewn ffyrdd sy’n gwahaniaethu.
- Peidio erlid neu geisio erlid unrhyw un sydd wedi gwneud cwynion am wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, neu gamdriniaeth neu sydd wedi darparu gwybodaeth am wahaniaethu.
- Dileu aflonyddu, camdriniaeth neu godi ofn ar eraill ar sail hil neu ethnigrwydd, er enghraifft mewn ymgais i’w cymell i beidio â gwneud cais am swyddi gwag neu gyfleoedd gwirfoddoli yn KellyKare.
- Rhoi gwybod i berson priodol os bydd gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth ar unrhyw ffurf yn digwydd.
- Cymryd camau priodol pan fo rhywun yn eu hysbysu bod gweithred neu weithredoedd o wahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth wedi digwydd.
Monitro
Polisi KellyKare yw monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws bob agwedd o’i weithgaredd. Mae hyn yn cynnwys:
- Derbyn a recriwtio staff, gwirfoddolwyr, aelodau, defnyddwyr ac ymwelwyr.
- Y nifer o gwynion, achwyniadau a chamau disgyblu a’u natur.
- Cyfraddau ymddiswyddo a thynnu’n ôl ymysg staff, cleientiaid, cwsmeriaid a/neu ddefnyddwyr gwasanaeth.
Bydd monitro fel hyn yn dangos a yw grwpiau penodol yn profi anfantais ac a ydynt yn cael eu trin yn deg ac yn gydradd mewn perthynas â naill ai eu cyflogaeth neu’r defnydd a wnânt o KellyKare.
Pan fo arferion annheg yn cael eu darganfod drwy’r broses fonitro, bydd y camau gweithredu angenrheidiol yn cael eu cymryd i ddatrys yr anfantais.