Cardiff Young Labour

Location: Cardiff

Name: James Caruana

Job Title: Chair

Cardiff Young Labour Datganiad o Fwriad

Mae Cardiff Young Labour yn croesawu ehangder ac amrywiaeth traddodiad, cred a diwylliant y gymuned. Ei nod yw cynnal a hybu cymuned lle caiff pawb ei drin yn deg ac yn gydradd beth bynnag eu hil. Mae Cardiff Young Labour yn cadarnhau ei ymrwymiad i bolisi o gyfleoedd cyfartal mewn cyflogaeth a darpariaeth gwasanaeth. Caiff unigolion eu dewis a’u trin ar sail eu rhinweddau a’u galluoedd a byddant yn cael cyfleoedd teg a chyfartal o fewn Cardiff Young Labour. Yn yr un modd, rydym yn cadarnhau ein hymrwymiad i drin ein holl staff, cleientiaid, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth yn unol â’r polisi hwn. Mae Cardiff Young Labour yn ymrwymo i gadw at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a darparu gwasanaethau teg a chydradd i bobl o bob hil ac o gefndiroedd y nodweddion gwarchodedig eraill. Nod y polisi yw sicrhau na chaiff unrhyw ymgeisydd am swydd neu ddefnyddiwr/ymwelydd/westai ei drin yn llai ffafriol ar unrhyw sail nad yw’n berthnasol i arfer da mewn cyflogaeth. Rydym wedi ymrwymo i raglen waith i roi’r polisi hwn ar waith yn llawn.


Datganiad Polisi Cardiff Young Labour

Mae Cardiff Young Labour yn ymrwymo i hybu agwedd goddef dim hiliaeth ym mhob rhan o Cardiff Young Labour, a golyga hyn:

  • Fe wnawn sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol a chydradd i bawb.
  • Ni wnawn oddef rhagfarn hiliol, gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, camdriniaeth na thrais yn erbyn unrhyw unigolyn.
  • Fe wnawn sefyll mewn undod, dod ynghyd, a dweud ‘na’ i hiliaeth ar ei holl ffurfiau.
  • Fe wnawn hyrwyddo cysylltiadau hiliol da rhwng pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn Cardiff Young Labour.
  • Fe wnawn hyrwyddo cyfleoedd teg a chydradd i bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol gael dyrchafiad.
  • Fe wnawn ddileu gwahaniaethu hiliol anghyfreithiol, aflonyddu, erledigaeth a chamdriniaeth.

Cyfrifoldeb Cardiff Young Labour

Mae gan bawb ar bob lefel rhyw fath o gyfrifoldeb. Mae cysylltiadau ac arfer da, a gwireddu cymuned gynhwysol yn dibynnu ar i holl aelodau Cardiff Young Labour drin eu cyd-aelodau/defnyddwyr/ymwelwyr gyda pharch ac urddas. Felly, disgwylir i bawb:

  1. Cydweithio â mesurau i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon.
  2. Trin holl aelodau staff mewn modd teg a heb wahaniaethu, gan barchu gwahaniaethau.
  3. Peidio gwahaniaethu pan fo gan rai aelodau bŵer dros eraill.
  4. Peidio ysgogi neu geisio annog eraill i ymddwyn mewn ffyrdd sy’n gwahaniaethu.
  5. Peidio erlid neu geisio erlid unrhyw un sydd wedi gwneud cwynion am wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, neu gamdriniaeth neu sydd wedi darparu gwybodaeth am wahaniaethu.
  6. Dileu aflonyddu, camdriniaeth neu godi ofn ar eraill ar sail hil neu ethnigrwydd, er enghraifft mewn ymgais i’w cymell i beidio â gwneud cais am swyddi gwag neu gyfleoedd gwirfoddoli yn Cardiff Young Labour.
  7. Rhoi gwybod i berson priodol os bydd gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth ar unrhyw ffurf yn digwydd.
  8. Cymryd camau priodol pan fo rhywun yn eu hysbysu bod gweithred neu weithredoedd o wahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth wedi digwydd.

Monitro

Polisi Cardiff Young Labour yw monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws bob agwedd o’i weithgaredd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Derbyn a recriwtio staff, gwirfoddolwyr, aelodau, defnyddwyr ac ymwelwyr.
  • Y nifer o gwynion, achwyniadau a chamau disgyblu a’u natur.
  • Cyfraddau ymddiswyddo a thynnu’n ôl ymysg staff, cleientiaid, cwsmeriaid a/neu ddefnyddwyr gwasanaeth.

Bydd monitro fel hyn yn dangos a yw grwpiau penodol yn profi anfantais ac a ydynt yn cael eu trin yn deg ac yn gydradd mewn perthynas â naill ai eu cyflogaeth neu’r defnydd a wnânt o Cardiff Young Labour.

Pan fo arferion annheg yn cael eu darganfod drwy’r broses fonitro, bydd y camau gweithredu angenrheidiol yn cael eu cymryd i ddatrys yr anfantais.

Menu