Royal Welsh College of Music & Drama

Location: Cardiff

Name: Royal Welsh College of Music & Drama

Royal Welsh College of Music & Drama Datganiad o Fwriad

Mae Royal Welsh College of Music & Drama yn croesawu ehangder ac amrywiaeth traddodiad, cred a diwylliant y gymuned. Ei nod yw cynnal a hybu cymuned lle caiff pawb ei drin yn deg ac yn gydradd beth bynnag eu hil. Mae Royal Welsh College of Music & Drama yn cadarnhau ei ymrwymiad i bolisi o gyfleoedd cyfartal mewn cyflogaeth a darpariaeth gwasanaeth. Caiff unigolion eu dewis a’u trin ar sail eu rhinweddau a’u galluoedd a byddant yn cael cyfleoedd teg a chyfartal o fewn Royal Welsh College of Music & Drama. Yn yr un modd, rydym yn cadarnhau ein hymrwymiad i drin ein holl staff, cleientiaid, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth yn unol â’r polisi hwn. Mae Royal Welsh College of Music & Drama yn ymrwymo i gadw at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a darparu gwasanaethau teg a chydradd i bobl o bob hil ac o gefndiroedd y nodweddion gwarchodedig eraill. Nod y polisi yw sicrhau na chaiff unrhyw ymgeisydd am swydd neu ddefnyddiwr/ymwelydd/westai ei drin yn llai ffafriol ar unrhyw sail nad yw’n berthnasol i arfer da mewn cyflogaeth. Rydym wedi ymrwymo i raglen waith i roi’r polisi hwn ar waith yn llawn.


Datganiad Polisi Royal Welsh College of Music & Drama

Mae Royal Welsh College of Music & Drama yn ymrwymo i hybu agwedd goddef dim hiliaeth ym mhob rhan o Royal Welsh College of Music & Drama, a golyga hyn:

  • Fe wnawn sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol a chydradd i bawb.
  • Ni wnawn oddef rhagfarn hiliol, gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, camdriniaeth na thrais yn erbyn unrhyw unigolyn.
  • Fe wnawn sefyll mewn undod, dod ynghyd, a dweud ‘na’ i hiliaeth ar ei holl ffurfiau.
  • Fe wnawn hyrwyddo cysylltiadau hiliol da rhwng pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn Royal Welsh College of Music & Drama.
  • Fe wnawn hyrwyddo cyfleoedd teg a chydradd i bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol gael dyrchafiad.
  • Fe wnawn ddileu gwahaniaethu hiliol anghyfreithiol, aflonyddu, erledigaeth a chamdriniaeth.

Cyfrifoldeb Royal Welsh College of Music & Drama

Mae gan bawb ar bob lefel rhyw fath o gyfrifoldeb. Mae cysylltiadau ac arfer da, a gwireddu cymuned gynhwysol yn dibynnu ar i holl aelodau Royal Welsh College of Music & Drama drin eu cyd-aelodau/defnyddwyr/ymwelwyr gyda pharch ac urddas. Felly, disgwylir i bawb:

  1. Cydweithio â mesurau i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon.
  2. Trin holl aelodau staff mewn modd teg a heb wahaniaethu, gan barchu gwahaniaethau.
  3. Peidio gwahaniaethu pan fo gan rai aelodau bŵer dros eraill.
  4. Peidio ysgogi neu geisio annog eraill i ymddwyn mewn ffyrdd sy’n gwahaniaethu.
  5. Peidio erlid neu geisio erlid unrhyw un sydd wedi gwneud cwynion am wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, neu gamdriniaeth neu sydd wedi darparu gwybodaeth am wahaniaethu.
  6. Dileu aflonyddu, camdriniaeth neu godi ofn ar eraill ar sail hil neu ethnigrwydd, er enghraifft mewn ymgais i’w cymell i beidio â gwneud cais am swyddi gwag neu gyfleoedd gwirfoddoli yn Royal Welsh College of Music & Drama.
  7. Rhoi gwybod i berson priodol os bydd gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth ar unrhyw ffurf yn digwydd.
  8. Cymryd camau priodol pan fo rhywun yn eu hysbysu bod gweithred neu weithredoedd o wahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth wedi digwydd.

Monitro

Polisi Royal Welsh College of Music & Drama yw monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws bob agwedd o’i weithgaredd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Derbyn a recriwtio staff, gwirfoddolwyr, aelodau, defnyddwyr ac ymwelwyr.
  • Y nifer o gwynion, achwyniadau a chamau disgyblu a’u natur.
  • Cyfraddau ymddiswyddo a thynnu’n ôl ymysg staff, cleientiaid, cwsmeriaid a/neu ddefnyddwyr gwasanaeth.

Bydd monitro fel hyn yn dangos a yw grwpiau penodol yn profi anfantais ac a ydynt yn cael eu trin yn deg ac yn gydradd mewn perthynas â naill ai eu cyflogaeth neu’r defnydd a wnânt o Royal Welsh College of Music & Drama.

Pan fo arferion annheg yn cael eu darganfod drwy’r broses fonitro, bydd y camau gweithredu angenrheidiol yn cael eu cymryd i ddatrys yr anfantais.

Menu